Mae’r llwybr hwn yn mynd drwy Barc Natur Parc Slip, sy’n gartref i doreth o fywyd gwyllt yn cynnwys adar hirgoes prin a sawl rhywogaeth o ieir bach yr haf, mursennod a gweision y neidr.
Mae’r Lôn Geltaidd yn cwmpasu 377 milltir o’r golygfeydd mwyaf amrywiol yng Nghymru. Mae’n eich tywys o’r ‘Porth i Gymru’ yn y dwyrain ger Pont Hafren i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn y gorllewin.