Gwybodaeth am y ras
Gwybodaeth am y 5k Rhuban Gwyn Ras dros Newid: Rhoi Diwedd ar y Trais sy’n cael ei chynnal ym mis Tachwedd eleni.
Yma cewch wybodaeth am sut i ddod o hyd i ni, teithio, parcio a chyfleusterau.
Gwybodaeth am deithio a pharcio i'r ras.
Sut i ddod o hyd i ni
Mae'r Ras dros Newid yn cael ei chynnal ar Gaeau Trecelyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Darn gwych o barcdir ar lannau Afon Ogwr sy’n cynnig lle tawel i gerdded a rhedeg, ymhell o fwrlwm canol y dref brysur.
Cyfeiriad: Caeau Trecelyn, Park Court Road, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4BP
Mae’r cwrs ar gyfuniad o lwybrau glaswellt a llwybrau parhaol drwy Gaeau Trecelyn. Mae’r llwybr sy’n rhedeg drwy Gaeau Trecelyn yn wastad ac ar hyd lannau Afon Ogwr, heb fod yn agos at geir a ffyrdd prysur. Bydd swyddogion mewn rhannau allweddol o'r cwrs, neu bydd arwyddion yn eu lle.
Cofiwch fod y ras hwyl yn defnyddio llwybrau sy’n cael eu rhannu. Er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus y digwyddiad, rhowch le i ddefnyddwyr eraill y parc gan y bydd yn sicrhau bod pawb yn parhau i fwynhau'r digwyddiad.
Parcio
Mae lle parcio ar gael yn y meysydd parcio canlynol. Dylech fod yn ymwybodol bod cost am barcio.
Mae holl feysydd parcio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig parcio am ddim i gerbyd sy’n arddangos Bathodyn Glas dilys. Nid yw hyn yn gyfyngedig i fae Bathodyn Glas a gellir defnyddio unrhyw fae.
Bydd prisiau a lwfansau’r meysydd parcio preifat yn amrywio. Lle bo hynny'n berthnasol, rhaid defnyddio baeau Bathodyn Glas i fanteisio ar ostyngiadau / lwfansau bathodyn glas.
Os gwelwch yn dda, lle bynnag y bo modd, cerddwch, loncian, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i ddod i’r digwyddiad. Os oes rhaid i chi yrru, ystyriwch rannu car i leihau ein heffaith ni ar yr amgylchedd a defnyddwyr eraill y parc.
Gwyliwch hefyd am ddefnyddwyr eraill y parc wrth gyrraedd a gadael. Edrychwch ar y wybodaeth am barcio ar gyfer meysydd parcio a awgrymir ac osgowch barcio ar strydoedd preswyl.
Mae tair awr gyntaf eich arhosiad am ddim
Hyd at hanner awr: 50 ceiniog.
Hanner awr i awr: £1.00.
Awr i ddwy awr: £1.50.
Dwy i dair awr: £2.00.
Tair i bedair awr: £2.50.
Mwy na phedair awr: £6.
Os byddwch yn aros yn rhy hir a bod y maes parcio wedi cael ei gloi, rhaid i chi dalu ffi ryddhau o £50 ar y pryd, cyn caiff eich car adael.
Capasiti: 242.
Mae’r maes parcio yn cau ac yn cael ei gloi am 7pm, dydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae’n ailagor am 7am.
Mae’r costau hyn yn berthnasol dydd Llun i ddydd Sadwrn yn gynhwysol ac o 8am hyd at 6pm. Does dim costau ddydd Nadolig.
Hyd at awr: £1.00.
Un i dair awr: £1.50.
Mwy na thair awr: £3.00.
Capasiti: 40
Mae camerâu TCC yn y maes parcio hwn.
Mae’r costau hyn yn berthnasol dydd Llun i ddydd Sadwrn yn gynhwysol ac o 8am hyd at 6pm. Does dim costau ddydd Nadolig.
Hyd at awr: £1.
Un i dair awr: £1.50.
Mwy na thair awr: £3.00
Os byddwch yn aros yn rhy hir a bod y maes parcio wedi cael ei gloi, rhaid i chi dalu ffi ryddhau o £50 ar y pryd, cyn caiff eich car adael.
Capasiti: 95
Mae camerâu TCC yn y maes parcio hwn.
Charges usually apply Monday to Saturday inclusive from 8am to 6pm. No charges apply on Christmas day.
Up to one hour: £1.
One to three hours: £1.50.
Over three hours: £3.
If you overstay and the carpark has been locked, you must pay an on-the-spot release fee of £50 before your car can leave.
Capacity: 95
This car park is covered by CCTV cameras.
Atebion i'ch cwestiynau cyffredin.
Yn anffodus, ni allwn roi unrhyw ad-daliadau gan mai rhoddion i'r elusen yw'r taliadau hyn. Fodd bynnag, os na fyddwch yn gallu mynychu mwyach, rhowch wybod i ni a gallwn ailneilltuo eich lle / agor eich lle i gyfranogwyr eraill.
Os bydd angen canslo’r digwyddiad oherwydd y tywydd, byddwch yn cael gwybod drwy’r cyfeiriad e-bost rydych chi wedi’i nodi ar y ffurflen yma. Mae'r digwyddiad yn debygol o gael ei aildrefnu i ddyddiad yn y dyfodol.
Cyfleusterau Toiled
Mae cyfleusterau toiled wedi'u lleoli ar Drac Athletau Pen-y-bont ar Ogwr ger dechrau'r ras. Mae toiledau hygyrch wedi'u cynnwys ar y trac, ac maent ar gael yng Nghanolfan Hamdden Halo hefyd.
Rydym yn dymuno gwneud y digwyddiad mor ddiogel â phosibl, felly gofynnir i gyfranogwyr, gwylwyr a chynorthwywyr ofalu am y canlynol:
- Byddwch yn ystyriol o'r parc a defnyddwyr eraill y parc bob amser.
- Rhaid i blant dan un ar ddeg oed fod gyda (o fewn hyd braich) rhiant, gwarcheidwad neu oedolyn priodol o ddewis y rhiant drwy gydol y digwyddiad.
- Cyrhaeddwch ar droed, ar bŵer pedal neu ar drafnidiaeth gyhoeddus os gallwch chi - mae eich ymdrechion yn helpu i leihau ein heffaith ni ar y parc a'r blaned. Os ydych chi’n bwriadu teithio i’r digwyddiad gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gallwch gynllunio eich siwrnai gan ddefnyddio gwefan Traveline Cymru.
- Byddwch yn ofalus ar arwynebau anwastad – boed ar laswellt neu ar darmac. Gwyliwch am feicwyr, cyfranogwyr eraill, cerddwyr, plant, cŵn, bywyd gwyllt, anifeiliaid y parc, cerbydau, gwaith cynnal a chadw yn y parc, canghennau'n cwympo, bolardiau, pyst a rhwystrau eraill o amgylch y cwrs.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn ddigon heini i gerdded, loncian, rhedeg 5k (3.1 milltir) gyda ni.
- Os gwelwch rywun gyda phroblem ddifrifol, arhoswch i'w helpu a chael help cyn gynted â phosibl.
- Os ydych chi’n gwylio, cadwch yn glir o gyfranogwyr y cwrs, a gofalwch am unrhyw blant a chŵn sydd gennych chi gyda chi.
- Ni chaniateir i chi redeg gyda chadair wthio a chi ar yr un pryd.
- Mae croeso i gyfranogwyr sy'n gwthio bygis, ond byddwch yn ofalus o bobl eraill o'ch cwmpas chi a gwnewch eich gorau i ddechrau mewn lle priodol ar y cae ar gyfer eich cyflymder a chofiwch fod rhywfaint o'r llwybr ar laswellt.