Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

5k Rhuban Gwyn: Rhedeg dros Newid

Dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024

Caeau Trecelyn, Pen-y-bont ar Ogwr

Cofrestrwch heddiw ar gyfer y 5k Rhuban Gwyn - Rhedeg dros Newid: Rhoi diwedd ar y trais

Mae’r digwyddiad yma’n gyfeillgar i deuluoedd a hoffem i gynifer o deuluoedd â phosibl ymuno â ni.

Bydd yr holl elw o’r digwyddiad yma’n cael ei ddefnyddio i helpu i gefnogi oedolion a phlant ym mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig.

Diwrnod Rhuban Gwyn

Mae’r Diwrnod Rhuban Gwyn yn ymgyrch ryngwladol sy’n galw ar unigolion, cymunedau a sefydliadau i sefyll yn erbyn trais sy’n targedu merched a genethod.

Mae’r rhuban gwyn ei hun yn symbol o ymrwymiad dynion i roi terfyn ar drais yn erbyn merched, gyda dynion yn addo bod yn rhan o’r ateb i’r broblem dreiddiol yma.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr elusen a’i gwaith drwy fynd i’w gwefan:

Cofrestrwch heddiw!

Os hoffech chi gymryd rhan yn y 5k Rhedeg dros Newid, llenwch ffurflen gofrestru ar-lein.

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 18 Tachwedd 2024

Ffioedd Cofrestru

Math o redwr Pris
Oedolion 16+ oed £5.00
Plant 6 i 15 oed £2.50
Tocyn Teulu am Bris Is ar gyfer 1 oedolyn neu fwy a 2 neu fwy o blant   £10.00

Sylwch: Dim ond oedolyn dros 18 oed sydd â chaniatâd rhiant neu warcheidwad cyfreithiol y plentyn sy'n gallu cofrestru plant ac mae'n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn ar y diwrnod.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Parcio

Cwestiynau Cyffredin

Gyda chefnogaeth gan:

Chwilio A i Y