Trwydded safle
Cais am, newid neu adnewyddu trwydded safle
Gall ymgeiswyr un ai ddefnyddio’r ddolen uchod, neu bydd angen iddynt:
- Gyflwyno ffurflen gais trwydded safle, sy’n cynnwys cwblhau atodlen weithredu. Mae atodlen weithredu yn ddisgrifiad cryno o’r modd y bydd y safle yn gweithredu yn unol â’r amcanion trwyddedu.
- Cyflwyno cynllun safle.
- Talwch y ffi a nodwyd gan y Swyddfa Gartref.
- Darparwch ffurflen gydsynio gan y GSD (Goruchwylydd Safleoedd Dynodedig), os yw’r safle am ddarparu alcohol.
- Hysbysebwch y cais. Cysylltwch â ni er mwyn cael mwy o wybodaeth am hynny.
Adolygwch wybodaeth fanwl y llywodraeth ar drwyddedau safle, a’n gwybodaeth bellach sydd islaw’r adran yma. Hefyd cyn gwneud cais, darllenwch ein Datganiad Polisi Trwyddedu, a’n llyfrynnau gwybodaeth. Gallwch weld cyngor y llywodraeth am bopeth sy’n ymwneud a thrwyddedu alcohol yma.
- Gweld yr Asesiad o'r Effaith Gronnol ar Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr
- Gweld yr Datganiad Polisi Trwyddedu 2019 - 2024
Gwnewch amrywiadau bychain i drwydded neu dystysgrif
Mae modd gwneud amrywiadau bach i drwyddedau safle a thystysgrifau safle clwb. Dylai deiliaid trwydded gyfeirio at y Canllaw DCMS Statudol ar y math ar amrywiadau bach ar geisiadau sydd yn bosib.
Amrywio’r Goruchwylydd Safleoedd Dynodedig
Proses ymgeisio i amrywio’r GSD
I wneud cais rhaid cyflwyno:
- y drwydded safle, neu, os nad yn ymarferol, datganiad yn egluro eich methiant i’w gyflwyno
- ffurflen gais berthnasol
- y ffi berthnasol, nad oes modd ei ad-dalu
- ffurflen ganiatâd gan y GDS arfaethedig i ddangos eu bod yn rhoi caniatâd i ymgymryd â’r rôl yma.
Dim ond un GDS fydd yn berthnasol i bob trwydded safle.
Trosglwyddo trwydded safle
Gallwch drosglwyddo trwydded safle i berson/cwmni arall. Gwneir hyn fel rheol pan fo’r busnes wedi ei werthu o un person/cwmni i un arall.
Proses ymgeisio i gael trosglwyddo trwydded safle
I wneud cais bydd angen i chi gyflwyno:
- ffurflen gais berthnasol
- Y drwydded safle neu ran briodol y drwydded, neu, os nad yw hynny’n ymarferol, eglurhad am fethu â chyflwyno’r drwydded neu ran ohoni.
- Y ffi angenrheidiol, sydd yn ffi cais na ellir ei ad-dalu
- Ffurflen gydsyniad wedi ei llofnodi gan ddeiliad presennol y drwydded, neu ddatganiad yn egluro pam nad yw wedi ei amgáu.
- prawf o hawl i fyw a gweithio
Gweler y canllawiau gwneud cais am fwy o wybodaeth.
Dileu amodau alcohol gorfodol
Gall safleoedd cymunedol wneud cais i ddileu’r amod alcohol gorfodol ar gyfer goruchwylwyr safle dynodedig enwebedig. Mae’r newid hefyd yn dileu’r angen i werthiant alcohol gael ei awdurdodi gan ddeiliad trwydded bersonol. Gweler gwybodaeth bellach, a ffurflen gais yma.
Yng Nghymru a Lloegr, mae ‘Trwydded Safle’ yn galluogi safle i weini alcohol, cynnig adloniant wedi ei reoleiddio a lluniaeth hwyr yn y nos.
Gallwch wneud cais am drwydded safle os ydych:
- yn rhedeg busnes ar y safle
- yn glwb cydnabyddedig
- yn elusen
- yn gorff gwasanaeth iechyd
- yn berson a gofrestrwyd dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 parthed ysbyty annibynnol.
- yn brif swyddog heddlu llu yng Nghymru a Lloegr
- yn unrhyw un sy’n gweithredu dyletswyddau cyfreithiol neu swyddogaethau dan ragorfraint Ei Mawrhydi
- o sefydliad addysgol
- yn unrhyw berson arall a ganiateir
Ni ddylai ymgeiswyr fod o dan 18 oed.
Anfonwch geisiadau at yr awdurdod lleol sydd yn lleol i’r safle.
Rhaid i geisiadau fod ar eu ffurf benodol, a rhaid cynnwys taliad. Dylent gynnwys:
- atodlen weithredu
- cynllun safle
- ffurflen gydsyniad gan oruchwyliwr y safle, ar gyfer ceisiadau lle bydd gwerthu alcohol yn weithgaredd trwyddedadwy
Bydd atodlen weithredu yn manylu ar:
- gweithgareddau trwyddedadwy.
- adeg y gweithgaredd
- unrhyw amseroedd eraill pan fydd y safle ar agor i’r cyhoedd
- y cyfnod y mae angen y drwydded ar ei gyfer, gydag ymgeiswyr sydd am drwydded gyfyngedig
- gwybodaeth am oruchwyliwr y safle
- os yw alcohol sydd ar werth i’w yfed ar neu oddi ar y safle, neu’r ddau
- y camau gaiff eu cynnig i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
- unrhyw wybodaeth arall y gofynnir amdano
Mae’n bosib y bydd yn rhaid i ymgeiswyr hysbysebu eu cais. Hefyd mae’n bosib y bydd yn rhaid iddynt hysbysu eraill neu gyrff cyfrifol fel yr awdurdod lleol, prif swyddog yr heddlu, awdurdod tân ac achub.
Mae’r awdurdod trwyddedu yn gyfrifol am roi trwyddedau, a all fod yn amodol. Rhaid cynnal gwrandawiad os caiff unrhyw sylwadau eu gwneud am y cais. Os cynhelir gwrandawiad, gall y drwydded gael:
- ei chaniatáu
- ei chaniatáu yn amodol
- ei chaniatáu gyda gweithgareddau trwyddedadwy wedi eu heithrio
- ei gwrthod
Os na wneir sylwadau, gellir caniatáu’r drwydded dan Gynllun Dirprwyaeth y cyngor. Fodd bynnag os gwneir sylwadau, bydd yr awdurdod trwyddedu yn cynnal gwrandawiad. Os na all ymgeiswyr a gwrthwynebwyr gytuno, bydd aelodau o Is-Bwyllgor Trwyddedu’r Cyngor yn adolygu’r cais.
Bydd yr awdurdod trwyddedu yn hysbysu ei benderfyniad ar:
- yr ymgeisydd
- unrhyw un a wnaeth sylwadau perthnasol
- pennaeth yr heddlu
Hefyd gellir gwneud ceisiadau i amrywio neu drosglwyddo trwydded. Os gwneir sylwadau neu os na fydd amodau yn ymwneud a throsglwyddo yn cael eu bodloni, efallai y cynhelir gwrandawiad.
Wedi marw, analluogrwydd neu ansolfedd deiliad trwydded, gellir gwneud cais am hysbysiad awdurdod dros dro. Mae hefyd modd i adolygu ceisiadau.
Mae er budd y cyhoedd fod awdurdodau yn prosesu ceisiadau cyn eu caniatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod perthnasol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r awdurdod. Gallwch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch gais drwy’r UK Welcomes Service, neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Os gwrthodir cais, gall ymgeiswyr apelio. Gwneir apêl i lys ynadon o fewn 21 diwrnod o hysbysiad o benderfyniad.
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â ni ar y manylion isod.
E: licensing@bridgend.gov.uk
Ff: 01656 643643
Adran Drwyddedu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB
Gallwch wneud sylwadau os yw’r prif swyddog heddlu yn gwneud cais, fel y nodwyd o dan ‘Iawndal Arall’, a bod yr awdurdod trwyddedu yn cymryd camau dros dro. Rhaid cynnal gwrandawiad o fewn 48 awr i dderbyn eich sylwadau.
Gall deiliad trwydded apelio yn erbyn:
- amodau ynghlwm â thrwydded
- penderfyniad i wrthod amrywiad cais
- penderfyniad i wrthod trosglwyddo cais
- penderfyniad i eithrio gweithgaredd neu berson fel goruchwyliwr safle
Gwnewch apêl i lys ynadon o fewn 21 diwrnod i hysbysiad o benderfyniad.
Gall parti â diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu i adolygu’r drwydded safle. Bydd yr awdurdod trwyddedu yn cynnal gwrandawiad.
Gwneir apêl i lys ynadon o fewn 21 diwrnod i hysbysiad o benderfyniad.
Gall prif swyddog yr heddlu lleol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu i adolygu trwydded os:
- yw’r safle wedi ei drwyddedu i werthu alcohol
- a bod uwch swyddog wedi tystio ei fod o’r farn bod y safle yn gysylltiedig ag un ai droseddu difrifol neu anrhefn neu’r ddau
Cynhelir gwrandawiad a gall deiliad y drwydded ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb gyflwyno sylwadau.
Gall prif swyddog yr heddlu hysbysu’r awdurdod trwyddedu os byddai trosglwyddo trwydded i eraill, drwy gyfrwng cais amrywio, yn tanseilio atal troseddu. Rhaid rhoi hysbysiad o’r fath o fewn 14 diwrnod o hysbysu’r cais.
Gall parti â diddordeb neu gorff cyfrifol wneud sylwadau ar y cais am drwydded neu ofyn i’r corff trwyddedu i adolygu’r drwydded.
Gall parti â diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu i adolygu’r drwydded safle. Cynhelir gwrandawiad gan yr awdurdod trwyddedu.
Gall parti â diddordeb neu awdurdod perthnasol a wnaeth sylwadau perthnasol apelio yn erbyn:
- rhoi’r drwydded
- amodau
- amrywiadau
- gweithgareddau trwyddedadwy.
- penderfyniadau ar oruchwylwyr safleoedd
Gwneir apêl i lys ynadon o fewn 21 diwrnod i hysbysiad o benderfyniad.
Mewn mannau eraill ar y we
Dogfennau
- List of Responsible Authorities and Addresses Cymraeg (DOC 37Kb)
- Hysbysiad Cyhoeddus Templed (DOC 28Kb)