Trwydded casglu o ddrws i ddrws
Gwneud cais ar-lein
Ffurflenni cais ar gyfer casgliadau o ddrws i ddrws
Ffurflen gais ar gyfer casglu o ddrws i ddrws
Rheoliadau casglu o ddrws i ddrws
Ffurflen ddychwelyd casgliad o ddrws i ddrws
Anfonwch y ffurflenni at:
Cyswllt
Adran Trwyddedu
Er mwyn gwneud casgliadau elusennol o ddrws i ddrws yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi trwydded i chi.
Mae’n rhaid i geisiadau fod ar y ffurf a bennir gan yr awdurdod lleol. Hefyd mae’n rhaid i chi fod yn berson addas a phriodol.
Nid yw’r gyfraith yn diffinio proses arfarnu benodol.
Mae er budd y cyhoedd bod awdurdodau’n prosesu ceisiadau cyn eu rhoi. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod perthnasol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch ag ef. Gallwch wneud hyn ar-lein os ceisioch drwy Wasanaeth Croeso’r DU, neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.
Mae gennych yr hawl i apelio i’r Gweinidog ar gyfer y Swyddfa Cabinet. Mae’n rhaid gwneud apeliadau o fewn 14 diwrnod o’r gwrthodiad.
Mae gennych yr hawl i apelio i’r Gweinidog ar gyfer y Swyddfa Cabinet.
Mae’n rhaid gwneud apeliadau o fewn 14 diwrnod o’r penderfyniad.
Yn y lle cyntaf, trafodwch y mater gyda ni trwy’r manylion isod.
Ebost: licensing@bridgend.gov.uk
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Adran Trwyddedu
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB
Wrth gwyno, gwnewch y cyswllt cyntaf â’r masnachwr eich hun, ac yn ddelfrydol drwy lythyr gyda phrawf danfon. Os nad yw hynny’n gweithio a’ch bod chi yn y DU, gall Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth i Ddefnyddwyr eich helpu. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU.
Nid oes unrhyw iawndal arall ar gael.