Trwydded bersonol i werthu alcohol
Cais am drwydded bersonol
I wneud cais am drwydded bersonol, dylai ymgeiswyr wneud cais i’r awdurdod lleol lle maent yn byw fel arfer a:
1. Chyflwyno ffurflen gais am drwydded bersonol, gyda datgeliad o euogfarnau a datganiad.
2. Cyflwyno tystysgrif cymhwyster trwyddedu cymwys gwreiddiol. Gweler gwefan y Swyddfa Gartref am wybodaeth bellach ar y cymwyseddau trwyddedu perthnasol.
3. Cyflwyno dau ffotograff o’r ymgeisydd. Rhaid i un gael ei ardystio gan gyfreithiwr, notari, person parchus yn y gymuned neu berson proffesiynol cymwys gyda datganiad yn gwirio tebygrwydd gwirioneddol.
4. Darparu tystysgrif datgelu euogfarn troseddol sylfaenol.
5. Talu’r ffi priodol.
Pan fo gofyn cael trwydded bersonol
Mae trwydded bersonol yn caniatáu i berson werthu alcohol neu gymeradwyo ei werthu dan awdurdod trwydded safle. Rhaid i berson gaiff ei enwi ar drwydded safle fel Goruchwylydd Safle Dynodedig fod â thrwydded bersonol.
Amodau trwydded bersonol
Gall ymgeiswyr sydd yn bodloni’r meini prawf perthnasol gael trwyddedau dan Gynllun Dirprwyaeth y Cyngor. Fodd bynnag gydag ymgeiswyr a gafwyd yn euog o droseddau ‘perthnasol’, mae’n bosib y bydd Prif Swyddog yr Heddlu yn ystyried bod eu cais yn tanseilio atal trosedd. Yna, mae’n bosib y bydd y cais yn cael ei osod i’w ystyried ger bron Is-Bwyllgor Trwyddedu’r Cyngor.
Sut i gael trwydded bersonol newydd
Defnyddiwch y ffurflen 'cais am drwydded bersonol newydd' i ddweud wrthym am unrhyw newid enw neu gyfeiriad. Fe’i defnyddiwch hefyd i roi gwybod am drwydded sydd wedi’i cholli neu’i difrodi.