Hysbysiadau digwyddiad dros dro
Mae Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn rhoi hawl i safle/clwb gyflenwi alcohol, adloniant rheoledig a lluniaeth hwyrnos dros dro.
Gwneud cais all-lein am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro
Er mwyn cyflwyno Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro, bydd angen i ddefnyddiwr y safle wneud y canlynol:
- Cwblhau a chyflwyno’r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn ddeublyg i’r Adran Trwyddedu o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.
- Talu’r ffi.
- Cyflwyno copi o’r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro i Brif Swyddog yr Heddlu ac i Adran Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ar yr un pryd.
Sylwch y gall yr Heddlu a’r Adran Gwarchod y Cyhoedd wrthod y cais am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro dan yr amcanion trwyddedu. Hefyd, nid yw penwythnosau na gwyliau’r banc, dyddiad y digwyddiad na’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad yn cael eu hystyried yn ddiwrnodau gwaith.
Y cyfeiriadau ar gyfer cyflwyno copïau o’r hysbysiad yw:
Cyswllt
Yr Uwch-arolygydd (Trwyddedu)
Adran Gwarchod y Cyhoedd
Bydd yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn cael ei gydnabod gan yr Adran Trwyddedu cyn ei ddychwelyd i ddefnyddiwr y safle.
Cyfyngiadau’r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro
Mae gwahanol gyfyngiadau’n weithredol. Gallwch fwrw golwg ar brif gyfyngiadau’r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro yma.
Eithriadau a chyngor ar gyfer Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro
Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr eithriadau o ran cyflwyno Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro ar wefan Llywodraeth y DU.
I ddarllen canllawiau mwy manwl, gweler y Ffurflen Hysbysiad Dros Dro. Mae nodiadau ar gefn y ffurflen a bydd rhaid i’r unigolyn sy’n cyflwyno’r hysbysiad ddarllen y nodiadau hyn cyn y gellir cwblhau’r cais.