Gwneud cais am drwydded anifail gwyllt peryglus
Meini prawf anifeiliaid gwyllt peryglus
Mae angen i chi gael trwydded i gadw rhai anifeiliaid yr ystyrir eu bod yn wyllt, yn beryglus neu’n egsotig, megis:
- moch penodol gan gynnwys baeddod gwyllt
- bolgodogion
- primatiaid
- cathod gwyllt
- cŵn gwyllt gan gynnwys bleiddiau
Efallai y bydd angen trwydded ar gyfer anifeiliaid hybrid neu groesfrid. Mae’r sefyllfa’n dibynnu ar ba mor bell i ffwrdd yw’r anifail o’i hynafiaid gwyllt.
Cyngor ar eich cais
Cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (External link - Opens in a new tab or window) am gyngor anffurfiol cyn ymgeisio. Ychwanegwch eich manylion cyswllt i'w ffurflen gyswllt, a nodwch eich bod am gael cyngor ar lesiant anifeiliaid a thrwyddedu anifeiliaid gwyllt peryglus.
Anfonwch geisiadau cyflawn at:
Cyswllt
E-bost:
licensing@bridgend.gov.uk
Ffôn:
01656 643643
Cyfeiriad:
Swyddfeydd Dinesig,
Stryd yr Angel,
Pen-y-bont ar Ogwr,
CF31 4WB.