Cwynion am drwyddedu a manylion cyswllt
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, anfonwch e-bost i licensing@bridgend.gov.uk. Nodwch y gall gymryd mwy o amser nag arfer i ymateb i ymholiadau yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r Adran Trwyddedu a Chofrestru’n prosesu trwyddedau a chydsynio. Mae ein gwaith yn cynnwys cyflwyno, adnewyddu a throsglwyddo trwyddedau yn ogystal â chofrestru a chydsynio'r canlynol:
- trwyddedau sefydliadau lletya anifeiliaid
- tystysgrifau safleoedd clwb
- anifeiliaid gwyllt peryglus
- ffrwydron
- trwyddedau a chofrestru gamblo
- casglu arian o ddrws i ddrws
- awdurdodi hypnoteiddio
- cofrestru anifeiliaid perfformio
- trwyddedau personol
- trwyddedau siopau anifeiliaid anwes
- petrolewm
- cymeradwyo safleoedd ar gyfer priodasau neu seremonïau sifil
- trwyddedau safle
- trwyddedau sefydliadau marchogaeth
- cofrestru gwerthwyr metel sgrap
- adloniant rhywiol
- casglu arian ar y stryd
- trwyddedau masnachu ar y stryd
- trwyddedau tatw, tyllu’r corff, electrolysis a nodwyddo
- trwyddedau gyrrwyr tacsi a cherbydau
- hysbysiadau digwyddiadau dros dro
- trwyddedau sŵ
Am gymorth i wneud cais, gwnewch apwyntiad trwy gysylltu gan ddefnyddio’r manylion isod.
Gellir gwneud llawer o geisiadau trwy’r post neu ar-lein. Hefyd, rydym yn derbyn ceisiadau trwy ffacs ac os oes ffi, rydym yn derbyn taliadau dros y ffôn. Ewch i’r tudalenau unigol am wybodaeth am drwyddedau penodol.
Cyswllt
Adran Drwyddedu
Cwynion am drwyddedau neu eiddo
Oherwydd mai sicrhau diogelwch y cyhoedd yw ein nod, rydym yn trin pob cŵyn yn ddifrifol. Gwnewch gŵyn am ddeiliaid trwydded neu safleoedd trwy gyflwyno’r canlynol i ni:
- manylion y safle
- natur y digwyddiad
- dyddiad ac amser y digwyddiad
- nodiadau ynghylch pobl eraill rydych wedi adrodd y digwyddiad wrthynt, os o gwbl.