Awdurdodi hypnoteiddio
Er mwyn dangos, arddangos neu berfformio gweithredoedd hypnoteiddio yng Nghymru a Lloegr, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol eu hawdurdodi. Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm ag awdurdodi.
Nid oes unrhyw feini prawf cymhwyster, ac nid oes unrhyw ffi yn daladwy.
Nid oes unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth.
Mae er budd y cyhoedd bod awdurdodau’n prosesu ceisiadau cyn eu rhoi. Os nad ydych wedi clywed yn ôl o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni. Gallwch wneud hyn drwy’r manylion cyswllt isod.
Cysylltwch â ni i apelio.
Cysylltwch â ni i gael iawndal i ddeiliad trwydded:
Ebost: licensing@bridgend.gov.uk
Ff: 01656 643643
Adran Trwyddedu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB
Wrth gwyno, gwnewch y cyswllt cyntaf â’r masnachwr eich hun, ac yn ddelfrydol drwy lythyr gyda phrawf danfon. Os nad yw hynny’n gweithio a’ch bod chi yn y DU, gall Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth i Ddefnyddwyr eich helpu. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU.