Trosglwyddo Asedau Cymunedol Tŷ Carnegie
Yn ystod 2013, dechreuodd Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr symud Siambr y Cyngor i’r hen lyfrgell a sefydlwyd gan Andrew Carnegie yng nghanol y dref.
Yn ogystal â hyn, roedd y sefydliad celfyddydau lleol Bridgend Arts Ltd wedi nodi nad oedd canolfan y celfyddydau yng nghanol y dref ac nad oedd yn gallu cynnig man i artistiaid lleol gyfarfod, a chyflwyno eu gwaith.
Drwy gydweithio ac yn dilyn trafodaethau manwl â’r Cyngor Bwrdeistref Sirol, symudodd y Cyngor Tref i’r hen lyfrgell gyhoeddus ar Stryd Wyndham ym mis Ionawr 2014, a’i hailenwi’n Tŷ Carnegie i dalu teyrnged i’r gorffennol.
Ar lawr cyntaf yr adeilad mae Siambr y Cyngor Tref, Ystafell y Bwrdd a swyddfa’r staff; mae’r llawr gwaelod a’r oriel fach ar y llawr cyntaf wedi’u dynodi’n Ganolfan y Celfyddydau Tŷ Carnegie. Nod y ganolfan yw darparu digwyddiadau celf a diwylliant, gweithgareddau, a digwyddiadau a gweithdai cymunedol o ansawdd uchel.
Mae’r Cyngor Tref wedi defnyddio ei gyllid i adnewyddu’r adeilad, gan gynnwys: newid y system wresogi, adnewyddu ac ailaddurno ystafelloedd y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf (mewn lliwiau Edwardaidd), newid lloriau’r cyntedd, y grisiau a drwy hyd a lled y brif neuadd a’r llawr cyntaf.
Mae’r Cyngor Tref wedi cael grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu rhaglen digwyddiadau yn y lleoliad.