Trosglwyddo Asedau Cymunedol Cae Chwarae Bryncethin a’r Pafiliwn
Sefydlwyd Clwb Rygbi Bryncethin yn 1890. Mae ganddo dîm dynion, tîm ieuenctid, tîm dan 16, tri thîm ‘mini’, tîm rygbi cyffwrdd i ferched a thîm oedran, rhyw a gallu cymysg. Mae’r clwb yn aelod o Undeb Rygbi Cymru ac mae’n chwarae yng Nghynghrair 3 Gorllewin Canol B ar hyn o bryd. Cafodd y pafiliwn ei adeiladu’n wreiddiol yn 1952.
Dyfarnwyd les 35 mlynedd i’r clwb ym mis Hydref 2018. Mae Clwb Rygbi Bryncethin wedi trawsnewid y pafiliwn ar Feysydd Chwarae Bryncethin, a oedd wedi mynd â’i ben iddo, yn ganolfan gymunedol.
Roedd y gwaith yn cynnwys estyniad, ail lawr ychwanegol a maes parcio. Mae’r adeilad newydd yn cynnwys ystafelloedd newid, ceginau, ystafell TG, ystafell gyfarfod, neuadd fawr a drysau patio sy’n agor ar falconi. Roedd gwaith adeiladu’r prosiect wedi costio £550k. Darparodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr £110k o’r Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol a £56k drwy gyllid Adran 106. Daeth gweddill yr adran gan Lywodraeth Cymru (y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol a’r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig), y Loteri Genedlaethol (y Gronfa Pobl a Lleoedd), ac Undeb Rygbi Cymru.
Cafodd y prosiect ei ddylunio gan Mr Phil Jones, is-gadeirydd a chyn-syrfëwr siartredig. Darparodd y Cyngor Bwrdeistref Sirol gyfanswm o £110k a chafodd y clwb gyllid allanol ychwanegol gan y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig, y Gronfa Cyfleusterau Cymunedol a Chronfa Deddf Eglwysi Cymru.
Bellach mae’r adeilad yn gartref i feithrinfa bum diwrnod yr wythnos, yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd, dosbarthiadau TG, caffi cymunedol a chlwb ieuenctid.