Trosglwyddo Asedau Cymunedol Bridgend Athletics
Sefydlwyd Athletau Pen-y-bont ar Ogwr yn yr 1950au gyda thîm o Goleg Technegol Pen-y-bont ar Ogwr. Datblygodd y clwb hwn i fod yn Athletau Pen-y-bont ar Ogwr. Yn 1997, cafodd y trac gwair ei uwchraddio i drac athletau 300m dan lifoleuadau, a chlwbdy.
Yn 2019, cyfrannodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr £20,000 at y gost o newid y trac, a osodwyd yn wreiddiol yn 1997. Roedd y trac newydd wedi costio dros £100k a chafodd ei ariannu’n rhannol gan Chwaraeon Cymru, Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr a’r clwb ei hun.