Polisi a Phrosesau CAT
Mae ein polisi CAT a phrosesau cysylltiedig yn seiliedig ar egwyddorion allweddol angen cymunedol, cefnogaeth i nodau ac amcanion ehangach y Cyngor, yr angen am sicrhau tryloywder, a chynaliadwyedd unrhyw gynigion.
Mae tri cham i'r broses – mynegi diddordeb, cynllun busnes llawn (neu ragolwg ariannol 5 mlynedd ar gyfer ceisiadau a all fod yn destun “llwybr cyflym” a phenderfyniad). Mae'r canllawiau’n nodi'r mathau o asedau a ystyrir yn addas ar gyfer CAT.
Crynodeb o'r Broses CAT
Mae dwy broses ar gael ar gyfer ceisiadau – safonol a llwybr cyflym. Bydd y dull sydd ei angen yn dibynnu ar raddfa a chymhlethdod y trosglwyddiad.
CAM |
CAT SAFONOL |
CAT LLWYBR CYFLYM |
0 |
Trafodaeth cyn ymgeisio gyda Swyddog CAT, Guy Smith |
Trafodaeth cyn ymgeisio gyda Swyddog CAT |
1 |
Mynegi Diddordeb yn Ffurfiol i Swyddog CAT, Guy Smith |
Mynegi Diddordeb yn Ffurfiol i Swyddog CAT |
2 |
Diagnosteg Busnes a Chynllun Busnes |
Diagnosteg Busnes ac Amcanestyniadau Ariannol |
3 |
Asesiad Llawn o Gynnig a Chynllun Busnes CAT |
Asesu Cynnig ac Amcanestyniadau Ariannol |
4 |
Cymeradwyo trosglwyddo eiddo a chwblhau’r cytundeb |
Cymeradwyo trosglwyddo eiddo a chwblhau’r cytundeb |
Cyn cyflwyno cais anogir ymgeiswyr i drafod eu hopsiynau, eu haddasrwydd a chwmpas trosglwyddo asedau cymunedol gyda'r Swyddog CAT. Bydd y trafodaethau anffurfiol hyn yn helpu i baratoi ar gyfer y broses o wneud cais ffurfiol i drosglwyddo ased.