Hillsboro South, Cyfleoedd ym Mhorthcawl
Mae adfywiad Glannau Porthcawl a'r ardaloedd cyfagos yn elfen allweddol o’r gwaith i drawsnewid Porthcawl yn gyrchfan glan môr o'r radd flaenaf yn y dyfodol.
Mae'r Cyngor yn dymuno Marchnata dau adeiledd modiwlaidd er mwyn rhoi hwb i fentrau busnes masnachol bychan yn yr ardal.
I’w osod - 2x cynhwysydd ar gael dros dro am 3 blynedd ar gyfer defnydd manwerthu (Dosbarth Defnydd A1)
De Hillsboro, Porthcawl
- Mae'r safle ar faes parcio 'Talu ac Arddangos' cyhoeddus.
- Bydd y cynwysyddion yn cael eu gosod wrth ymyl Adeilad Harlequin.
Mae manylion lllawn y cais a gymeradwywyd (Cyf: P/23/770/BCB) a’r cynlluniau a gymeradwywyd i’w gweld ar y Porth Cynllunio:
Y weledigaeth gyda’r cynllun yw cynnig cyfle risg isel i fusnesau bach ac entrepreneuriaid gymryd eu camau cyntaf i'r farchnad rhentu masnachol.
Y gobaith yw y byddant yn mentro ar delerau hyblyg er mwyn sefydlu ac ehangu, cyn symud i safle arall parhaol ym Mhorthcawl.
Y gobaith yw y bydd y busnesau hyn yn helpu i wella'r hyn sy'n cael ei gynnig yn y dref ar hyn o bryd, ac y byddant yn atyniad drwy gydol y flwyddyn i’r rhai sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Phorthcawl.
Dyma’r meini prawf allweddol i'w hystyried ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol;
- Rhaid iddo ddarparu ar gyfer ymwelwyr yn ogystal â'r gymuned leol
- Rhaid i’r busnes fod o fewn dosbarth defnydd A1, a rhaid iddo ddarparu nwyddau neu wasanaethau sy'n gwella'r cynnig presennol yng Nghanol y Dref
- Bydd angen tystiolaeth y gall y busnes ddenu ymwelwyr o’r tu allan i Borthcawl trwy gydol y flwyddyn a chefnogi ei rôl fel cyrchfan i dwristiaid
- Bydd gofyn i'r tenant llwyddiannus; Gymryd les o 1 flwyddyn ar y byrraf, a 2 flynedd ar yr hiraf. Gall y Landlord neu’r Tenant dorri'r les drwy roi 3 mis o rybudd ysgrifenedig
- Bydd angen i'r busnes fod ar agor o leiaf 6 diwrnod yr wythnos
- Y Tenant sydd yn gyfrifol am dalu costau cyfleustodau (Dŵr a Thrydan)
- Bydd y Tenant yn talu rhent cyfnod prysur (1 Mawrth tan 31 Hydref) o £125 yr wythnos, a rhent cyfnod tawel (1 Tachwedd i 28 Chwefror) o £75 yr wythnos (£5650pa)
- Bydd rhaid i'r Tenant gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol
Dyddiad cau i gofrestru diddordeb: Dydd Llun 22 Gorffennaf 2024,12pm
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: