Prynu neu rentu tir neu eiddo
Gwybodaeth am dir ac eiddo sydd ar werth neu ar osod ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ar hyn o bryd mae’r eiddo canlynol ar werth/ar gael ar osod:
Ar osod
Ciosg, Glan-y-môr Porthcawl
Cyfle cyffrous ar gyfer gofod gwerthu ar Bromenâd Porthcawl. Siop offer Pysgota a Chanolfan Gwybodaeth arferai fod ar y safle ac mae'r Ciosg 19m2 wedi ei adnewyddu'n ddiweddar ar gyfer gweithredwr newydd.
Mae'r cyngor yn chwilio am fusnes sy'n gweddu gyda'r busnesau eraill yn yr ardal er mwyn gwella'r cynnig presennol drwy greu atyniad drwy gydol y flwyddyn neu bobl sy'n byw, gweithio ac ymweld â Phorthcawl.
Meini Prawf
Mae'r prif feini prawf i'w hystyried ar gyfer ei ddyfodol fel a ganlyn:
- Mae'n rhaid bod yn darparu ar gyfer ymwelwyr a'r gymuned leol
- Rhaid i fusnesau fod o fewn y dosbarth defnydd A1 a rhaid iddynt fod yn darparu nwyddau neu wasanaethau sy’n gwella’r cynnig cyfredol o fewn Canol y Dref
- Rhaid darparu tystiolaeth y gall y busnes weithredu fel atynnwr ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn ar gyfer ymwelwyr o’r tu hwnt i Borthcawl, a chefnogi ei rôl fel cyrchfan i dwristiaid.
Yr hyn sy'n ofynnol gan y Tenant
- Bydd gofyn i'r busnes sy'n gweithredu fod ar agor o leiaf 6 diwrnod yr wythnos
- Bydd gofyn i'r tenant dalu costau cyfleustodau (Dŵr a Thrydan)
- Bydd gofyn i'r tenant dalu cyfraddau busnes sy'n gysylltiedig gyda'r eiddo os yn berthnasol
- Bydd y tenant yn talu rhent cyfnod prysuraf (1 Mawrth tan 31 Hydref) o £175 yr wythnos a rhent cyfnod llai prysur (1 Tachwedd tan 28 Chwefror) o £96 yr wythnos (£7757 y flwyddyn)
- Bydd gofyn i’r tenant sicrhau bod ganddynt yswiriant addas a phriodol
Gall unrhyw un sydd â diddordeb gael rhagor o wybodaeth gan adran Landlord Corfforaethol y cyngor.
E-bost:
property@bridgend.gov.uk