Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Hysbysebu ar gylchfannau

Mae nawdd Roundabout wedi’i ohirio am y tro wrth i ni adolygu’r gwasanaeth a sut y caiff ei reoli i’r dyfodol. Hyd nes y rhoddir proses newydd ar waith ni fyddwn yn gallu cynnig nawdd roundabout.

Caniateir rhwng pedwar a chwech o arwyddion ar gylchfannau, gan ddibynnu ar faint y lleoliad. Mae gan bob arwydd ddimensiynau o 1200mm o led wrth 350mm o hyd ac mae’n rhaid iddynt gynnwys logo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r costau’n amrywio gan ddibynnu ar y lleoliad, gyda’r safleoedd prysurach yn ddrutach.

Gall hysbysebion gynnwys manylion fel y canlynol:

  • brandio
  • oriau agor
  • manylion yr eiddo
  • cynhyrchion neu wasanaethau

Ond ni allant gynnwys prisiau na chostau. Rhaid i bob hysbyseb gadw at ganllawiau’r Awdurdod Safonau Hysbysebu.

 

Mae arwyddion answyddogol yn anghyfreithlon

Mae’n drosedd o dan Adran 132 Deddf Priffyrdd 1980 i osod arwyddion ar briffyrdd heb ein caniatâd ni fel awdurdod priffyrdd. Gellir rhoi dirwy i unrhyw un sy’n gwneud hyn. Hefyd, bydd yr arwydd yn cael ei dynnu, gyda’r rhai a oedd yn gyfrifol am ei osod yn ei le’n talu’r costau symud.

Yn achlysurol, rydym yn archwilio ardaloedd sy’n tueddu i gael eu targedu gan hysbysebu anghyfreithlon ac yn cael gwared ar unrhyw arwyddion anghyfreithlon.

Chwilio A i Y