Economi ymwelwyr
Mae twristiaeth yn hanfodol i economi Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ôl ffigurau Monitor Gweithgarwch Economaidd Twristiaeth Scarborough (STEAM), daeth y sector â £347m i’r fwrdeistref sirol yn 2017. Roedd hyn yn cefnogi swm sy’n cyfateb i 4,041 o swyddi llawn amser.
Mae Cynllun Rheoli Cyrchfannau wedi cael ei gyflwyno ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2018 i 2022. Y nod yw dod â sefydliadau llywodraeth leol, busnesau a’r gymuned at ei gilydd er mwyn datblygu economi ymwelwyr ffyniannus.
Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ddarparu profiad o ansawdd uchel i ymwelwyr, gan ystyried anghenion ymwelwyr, trigolion lleol, busnesau a’r amgylchedd. Mae’n pennu fframwaith ar gyfer rheoli’r weledigaeth twristiaeth hyd at 2022 ac mae’n cael ei gefnogi gan Gynllun Gweithredu Cyrchfannau sy’n manylu ar weithgareddau penodol.
Cyswllt
Dogfennau
- Cynllun Gweithredu Cyrchfannau 2018 i 2022 (PDF 453Kb)
- Cynllun Rheoli Cyrchfannau 2018 i 2022 (PDF 358Kb)