Grant Cychwyn Busnes
Dyma gynllun grant hyblyg a ddarperir trwy bartneriaeth gyda UK Steel Enterprise a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'n darparu cymorth ariannol i ficrofusnesau newydd neu bresennol sydd wedi'u lleoli, neu'n bwriadu lleoli, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae microfusnes yn un sydd â llai na deg cyflogai a chyfanswm trosiant neu fantolen o lai na £2 filiwn.
Gellir ystyried busnesau sydd newydd gychwyn a busnesau yn eu tair blynedd gyntaf o fasnachu. Rhaid i'r busnes fod wedi'i leoli ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Efallai y byddwn yn ceisio ad-daliad os bydd y busnes yn symud i ffwrdd o'r ardal cyn pen blwyddyn ar ôl derbyn cyllid.
Y rhai nad ydynt yn gymwys i ymgeisio yw:
- sefydliadau neu grwpiau nad ydynt yn ymgymryd â gweithgareddau masnachu
- grwpiau gwleidyddol neu grefyddol
- clybiau a chymdeithasau
- sefydliadau gwirfoddol
- y rhai sy'n derbyn arian uwchlaw trothwyon cymorth gwladwriaethol
Gallai costau cymwys gynnwys:
- offer cyfalaf
- offer cyfrifiadurol
- datblygu gwefannau
- gwaith adeiladu i adeiladau busnes
Mae yna rai costau na all y cynllun eu hariannu, fel:
- Unrhyw gostau a gododd cyn cael cymeradwyaeth ffurfiol.
- Unrhyw gostau refeniw
- TAW neu unrhyw drethi eraill.
- Costau cyfreithiol/Gwaith yn cael ei wneud fel gofyniad statudol.
- Aelodaeth o Gyrff Proffesiynol.
- Ail-ariannu dyledion drwg o unrhyw fath, neu rwymedigaethau’r cwmni nad ydynt yn gysylltiedig â'r prosiect.
- Costau hyfforddi.
- Costau ceisiadau cynllunio.
- Yswiriant, cyflogau neu orbenion busnes gan gynnwys cyflogau a chostau staff eraill.
- Paratoi cynlluniau ac astudiaethau, e.e. Cynlluniau Busnes/Astudiaethau Dichonoldeb.
- Costa marchnata/hysbysebu (taflenni, cardiau busnes ac ati)
- Stoc neu eitemau na ellir eu hailddefnyddio.
- Gwaith a wneir ar eiddo domestig, naill ai adeilad newydd neu adnewyddiad neu estyniadau/ystafelloedd gardd/cabanau pren.
Gall y grant ddarparu hyd at 50% o gostau cymwys prosiect.
Y grant lleiaf y gellir ei gael £250 a'r grant mwyaf sydd ar gael yw £4,000 felly uchafswm cost y prosiect yw £8,000 (heb gynnwys TAW).
Dyfernir y grant ar sail y cyntaf i'r felin, ond rhaid i bob ffurflen gydymffurfio a chynnwys y wybodaeth berthnasol; bydd yn rhaid lanlwytho peth o’r wybodaeth honno.
Sylwer mai dim ond uchafswm o bum eitem y byddwn yn eu hystyried fesul cais.
Sut i ymgeisio
Rydym nawr yn derbyn ceisiadau i'r Gronfa Cychwyn Busnes.Rydym yn gweithredu ar sail y cyntaf i’r felin, a byddwn ond yn prosesu ffurflenni cais sy’n cydymffurfio â’r dystiolaeth ofynnol wedi’i lanlwytho fel y nodir isod.
I gael mynediad at ffurflen gais, cwblhewch y gwiriwr cymhwysedd isod.
Byddwn yn eich hysbysu o fewn pedair i chwe wythnos o ganlyniad eich cais ac os byddwch yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi gyflwyno eich hawliad o fewn tri mis i ddyddiad ein cynnig i chi.
Rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r cynnig cyllid yn ôl ar ôl i’r amser hwn fynd heibio.
Gellir cyrchu'r templed llif arian a'r cynllun busnes isod ac maent hefyd wedi'u hymgorffori yn y ffurflen ar-lein:
Mae angen dau ddyfynbris y gellid eu cymharu hefyd ar gyfer pob eitem gyfalaf sy'n ofynnol. Bydd angen i chi lanlwytho'r rhain ar eich ffurflen gais.
Bydd angen i chi hefyd lanlwytho’ch cyfriflen banc ac anfon diweddariadau atom os bydd eich prosiect yn mynd yn ei flaen.
Bydd angen i chi hefyd lanlwytho prawf hunaniaeth a phrawf cyfeiriad.
Rhaid i'r busnes geisio darparu cyflogaeth i'r Ymgeisydd am o leiaf 30 awr yr wythnos a dylai ddarparu'ch prif fath o incwm. Ni all y grant gefnogi datblygiad hobi neu ddifyrrwch.
Mae help a chyngor gyda rhoi cynllun busnes at ei gilydd ar gael ar wefan Busnes Cymru neu dros y ffôn - 03000 6 03000
Taflenni ffeithiau cychwyn busnes
Gallwch gael taflenni ffeithiau cychwyn busnes ar wahanol fathau o weithgareddau busnes trwy wefan Busnes Cymru, neu gysylltu â’r llinell gymorth ar 03000 6 03000.
Ni ddylid ysgwyddo unrhyw wariant cyn i grant gael ei gymeradwyo, gan na ellir dyfarnu'r grantiau yn ôl-weithredol. O dan amgylchiadau arferol dim ond un cais am gyllid y byddwn yn ei gefnogi o dan y Gronfa Cychwyn Busnes.
NI ddylai cyfarwyddwr/cyfarwyddwyr busnes y busnes feddu ar fuddiant/cyfranddaliad yn unrhyw un o'r cwmnïau sy'n cyflenwi dyfynbrisiau/amcangyfrifon ar gyfer y cais am grant. Rhaid i'r Ymgeisydd dderbyn telerau ac amodau'r grant trwy gwblhau a dychwelyd y Dystysgrif Derbyn y byddwn yn ei rhoi os bydd eich cais am grant yn llwyddiannus. Peidiwch â bwrw ymlaen â'ch prosiect nes eich bod wedi dychwelyd y Dystysgrif Derbyn.
Pe na bai'r prosiect yn symud ymlaen o fewn y cyfnod a nodir yn y llythyr cynnig, byddai'r grant yn dod i ben yn awtomatig.
NI fydd eitemau a brynir trwy gerdyn credyd/hurbwrcasu/cytundebau credyd estynedig/prydlesi cyllid ac arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant. Mae angen gwneud pob pryniant o'r CYFRIF BANC a restrir ar y ffurflen gais y mae'n rhaid iddo fod yn enw'r busnes neu'r ymgeisydd.
Pe bai'r cais yn llwyddiannus, telir yr arian grant yn uniongyrchol i GYFRIF BANC yr Ymgeisydd neu'r Busnes ar ôl derbyn anfonebau a gweld datganiadau banc i gadarnhau taliad a monitro boddhaol.
Ni fydd grant yn cael ei gynnig na'i dalu os yw'r Busnes neu'r Ymgeisydd mewn ôl-ddyledion mewn perthynas ag unrhyw daliad i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gwneir gwiriadau yn ôl yr angen, i'w penderfynu gan eich swyddog prosiect.