Cyllid Datblygu Busnes
Yn dilyn ymgysylltu â CLlLC ac awdurdodau lleol (ALlau) ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymrwymiad o £35m i gryfhau datblygiad economaidd rhanbarthol i alluogi i ALlau roi hwb pellach i'w gweithgarwch grantiau cefnogi busnes yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22.
Bydd y cyllid yn galluogi i ALlau ddarparu gweithgarwch grant rheolaidd ychwanegol lle mae hyn eisoes ar waith a bydd hefyd yn targedu buddsoddiad sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol â'r blaenoriaethau yn ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i gefnogi economi wyrddach, decach a chynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar le, sgiliau a’r dinesydd. Bydd y pecyn cefnogi gwell yn cyd-fynd â 4 maes allweddol;
- Ffocws ar ddatgarboneiddio a'r argyfwng hinsawdd a fydd yn helpu Cymru i gyrraedd ei tharged allyriadau carbon sero net sy'n rhwymo'n gyfreithiol erbyn 2050.
- Bwrw ymlaen â’r uchelgeisiau yn y Genhadaeth Gwydnwch Economaidd ac Ailadeiladu i Gymru (gan gynnwys gwaith teg, sgiliau, diwydiant / gwasanaethau'r dyfodol, prentisiaethau a chydweithio â phrifysgolion a busnes i gynnal talent graddedig yng Nghymru).
- Helpu busnesau i weithio'n gydweithredol i gefnogi cadwyni cyflenwi lleol, gan gynnwys gwasanaethau cyflenwi a logisteg lleol.
- Yn ogystal, mae'r gronfa'n ceisio darparu cefnogaeth i ymateb Covid o ran llefydd gwaith wedi'u hawyru'n dda a'r gallu i weithio'n glyfar.
I gydnabod y ffenestr benodol ar gyfer darparu, gofynnwyd i bartneriaid yn yr awdurdodau lleol ddefnyddio cynlluniau grant presennol neu ddod â chynlluniau segur yn ddiweddar yn ôl yn gweithredu i helpu i gyflawni'r uchelgais yma.
Mae'r cyllid ar gael i greu a diogelu swyddi. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi mai'r dyfarniad mwyaf sydd ar gael ar gyfer ceisiadau cymwys yw £50,000, bod ceisiadau grant yn cael eu cyllido'n gyfatebol ar sail 50/50 a bod rhaniad 80/20 rhwng cyllid cyfalaf a refeniw ar gael.
Hefyd mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod angen i wariant y cyllid hwn ddigwydd yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22, h.y. erbyn 31 Mawrth 2022. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid cyflwyno, asesu a chymeradwyo ceisiadau, gwneud cynigion posibl a chyllido prosiectau cyn 31 Mawrth 2022 gyda'r grant wedi'i dalu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob ALl fonitro’r gweithgarwch ar ôl cwblhau ar gyfer eu dyfarniadau er mwyn sicrhau bod arian cyhoeddus wedi'i wario yn erbyn meini prawf y llythyr dyfarnu ac yn unol â meini prawf y cynlluniau grant unigol.
Argymhellwyd bod hyn yn digwydd ar y pwynt 12 mis o ddyddiad y dyfarniad.
I nodi lefel y galw am y cyllid hwn, bydd CBSP yn cyhoeddi Mynegi Diddordeb ddechrau mis Rhagfyr 2021. Gwahoddir y busnesau hynny yr ystyrir eu bod yn gymwys i'r cam ymgeisio llawn wedyn ddechrau mis Ionawr 2022.