Y Gronfa Dichonoldeb Cymunedol
Ariennir y Gronfa Dichonoldeb Cymunedol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer Cymunedau a Lleoedd.
Rydym yn cefnogi cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr i wneud gwaith cynllunio cadernid lleol, gan ganolbwyntio ar Iechyd, yr Hinsawdd a'r Economi.
Mae'r Gronfa Dichonoldeb Cymunedol yn parhau â llwyddiant rhaglen Reach gyda'r uchelgais o ddatblygu cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr a’u troi’n lleoedd llewyrchus i fyw a gweithio ynddynt ac i ymweld â nhw.
Mae'n rhaglen cymorth cyllido yn benodol ar gyfer datblygu astudiaethau dichonoldeb cymunedol.
Y cymorth sydd ar gael
Mae’r Gronfa Dichonoldeb Cymunedol yn gronfa refeniw yn unig ac mae'n darparu 100% o gostau cymwys y prosiect. Yr isafswm sydd ar gael yw £2,000 a'r uchafswm yw £35,000 (heb gynnwys TAW).
Mae modd defnyddio'r gronfa i ddatblygu a threialu syniadau a all helpu i wella a chynnal cryfder cymunedau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac fe'i dyrennir ar sail y cyntaf i'r felin.
Pwy all ymgeisio?
- Grwpiau cymunedol neu fudiadau gwirfoddol
- Elusennau
- Cynghorau Cymuned / Tref
- Rhwydweithiau newydd neu rai sy'n bodoli’n barod
- Mudiadau’r trydydd sector
- Mudiadau'r sector cyhoeddus
Sut i wneud cais
Cysylltwch â reach@bridgend.gov.uk a gofynnwch am ffurflen Datganiad o Ddiddordeb.
Caiff y Datganiad o Ddiddordeb ei sgrinio i weld a yw’n gymwys a'i adolygu ar gyfer cyllid prosiect uniongyrchol neu ei gyfeirio at ffrydiau ariannu perthnasol eraill.
Os ydych yn gymwys, cewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn gyda chymorth gan Gydgysylltydd Cymunedau Gwydn.
Caiff y cais llawn ei gyflwyno i Banel Cymeradwyo Grantiau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i'w adolygu a'i gymeradwyo.
Os caiff y prosiect ei gymeradwyo, bydd yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â thîm Cymunedau Gwydn Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y tîm yn gweithio gyda chi i gomisiynu'r prosiect ac yn delio â threfniadau'r contractwyr wrth i chi lywio'r prosiect a darparu cyfarwyddyd.