Cwestiynau Cyffredin Cronfa Adnewyddu Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr
LlDU sy'n gyfrifol am y Gronfa Adnewyddu Cymunedol a bydd yn gwneud pob penderfyniad cyllido. Bydd pob ALl yng Nghymru yn ymgymryd â rôl gydlynu leol, gan wahodd ac wedyn blaenoriaethu cynigion o'u hardal, cyn eu cyflwyno i LlDU.
Nid yw Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i dynodi o fewn y 100 lle blaenoriaeth uchaf.
Gall ymgeiswyr prosiect gyflwyno i fwy nag un Awdurdod Arweiniol mewn ymateb i brosesau bidio lleol os bydd eu prosiect yn ymateb i ofynion a nodir ar draws mwy nag un lle.
Mae llywodraeth y DU yn gwahodd Awdurdodau Arweiniol i gydweithio ag Awdurdodau Arweiniol neu bartneriaid eraill ledled y DU os yw hynny'n berthnasol – er enghraifft, i hyrwyddo cyfleoedd prosiect trawsffiniol sy'n mynd i'r afael ag anghenion cyffredin neu’n cyflawni graddfa ddarparu effeithlon. O dan yr amgylchiadau hyn, gall Awdurdodau Arweiniol ddewis cynnal proses ar y cyd a/neu asesu ceisiadau ar y cyd.
Gall Awdurdodau Arweiniol ddilyn eu prosesau eu hunain a phenderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol o gydweithio ag Awdurdodau Arweiniol eraill os yw hynny'n briodol. Gellir cyflwyno ceisiadau ar y cyd a dylai Awdurdodau Arweiniol gytuno pwy fydd yn cyflwyno'r cais i lywodraeth y DU.
Bydd i ba raddau mae prosiect yn dangos arloesedd wrth ddarparu gwasanaethau yn cael ei asesu fel rhan o'r asesiad 'cyd-fynd yn strategol'. Mae sicrhau cydweithio ar draws mwy nag un lle yn un ffordd o ddangos hyn.
Bydd Llywodraeth y DU yn asesu prif ffocws daearyddol y prosiect, yn seiliedig ar faint o wariant ym mhob lle a nodir gan Ymgeiswyr y Prosiect ar y ffurflen gais. Ystyrir bod prosiectau sydd â'r rhan fwyaf o'r gwariant mewn llefydd blaenoriaeth (51% neu drosodd) yn brosiect blaenoriaeth.
Mater i bob prosiect yw pennu ei amserlen prosiect a'i gerrig milltir ei hun o fewn y cyfnod cyllido, gan gofio bod rhaid cwblhau'r holl ddarpariaeth a gwariant erbyn 31ain Mawrth 2022. Hoffem gyfeirio darpar ymgeiswyr at y nodyn technegol ar gyfer ymgeiswyr a darparwyr prosiectau. Sylwer ein bod yn aros am ganllawiau manwl pellach gan Lywodraeth y DU ar fonitro, gwerthuso a sicrwydd.
Cyfle i ymgysylltu:
E-bost at CRF Pen-y-bont ar Ogwr gan Ieuan Sherwood, Rheolwr y Grŵp Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae swyddogion yng Ngrŵp Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd CBSP wrthi'n edrych ar opsiynau ar gyfer datblygu cyfres o gynigion mewn perthynas â themâu canlynol y Gronfa Adnewyddu Cymunedol:
- buddsoddi mewn sgiliau
- buddsoddi mewn busnesau lleol
- buddsoddi mewn cymunedau a llefydd
- cefnogi pobl i gyflogaeth
Mewn ymdrech i gydweithio â phartneriaid sydd hefyd yn edrych ar opsiynau mewn perthynas â'r themâu uchod, defnyddiwch y neges hon fel hysbysiad y byddwn yn falch pe baech yn gallu trosglwyddo fy manylion cyswllt i unrhyw sefydliad sy'n dymuno trafod eu cynigion gyda CBSP er mwyn sicrhau cydweithio ac osgoi dyblygu.
Yn benodol, dyma rai enghreifftiau o gynlluniau sy'n cael eu hystyried gan gydweithwyr:
- Dulliau cymunedol o ddatgarboneiddio a dal a storio carbon
- Cyflogadwyedd lleol
- Cymorth i fusnesau lleol drwy brofi masnachu a chymorth busnes
- Datblygu Gwledig