Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr
Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei chau ar unwaith
Dydd Mercher 20 Medi 2023
Penderfynwyd bod angen cau’r safle er budd diogelwch y cyhoedd ar ôl i arolwg arbenigol a wnaed gadarnhau y gall fod problem posibl mewn perthynas â defnydd o Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) o fewn to’r strwythur.
Mae’r farchnad draddodiadol hon yn gartref i nifer o fusnesau teuluol hirsefydlog a masnachwyr newydd. Mae mynediad at y Farchnad Dan Do, sydd wedi’i chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar gael drwy Ganolfan Siopa y Rhiw.
Mae mynediad i gerbydau ar gael ar Heol y Frenhines, gyda nwyddau’n cael eu danfon at islawr y llawr gwaelod.
1836 - Pasio Deddf Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr i symud marchnadoedd da byw a marchnadoedd eraill oddi ar y strydoedd o amgylch neuadd y dref.
1837 - Neuadd newydd y farchnad yn agor ar Ddiwrnod y Fonesig. Caiff ei hadeiladu gan Iarll Dunraven neu ei gyndadau ar safle’r hen Gyrtiau Tennis, a ddaeth wedyn yn Westy Tennis Court ar Stryd Caroline. Emmaus yw hwn nawr.
1906 - Agor neuadd y farchnad newydd dan do i gymryd lle “Neuadd Farchnad Newydd’ 1837.
1908 - Cynhelir eisteddfod fawreddog yn neuadd y farchnad ar Ddydd San Steffan.
1955 - Cyngor Rhanbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr yn prynu neuadd y farchnad gan Dunraven Estates Cyf.
1972 - Neuadd y farchnad ar Stryd Caroline yn cau a’r stondinwyr olaf yn gadael ddiwedd mis Mai 1972. Dymchwel y neuadd ym mis Mehefin 1972 a’r farchnad newydd yn agor yn ei lleoliad presennol ddydd Llun 15 Mai 1972.
1996 - Ar 1 Mawrth 1996, ailosod cloch y farchnad, sy’n 130 o flynyddoedd oed, yn ôl yn ei lle. Roedd y gloch wedi bod yn gorwedd mewn canolfan gan y cyngor ers dymchwel yr hen farchnad yn 1972.
Stondin | Enw'r stondin | Busnes/gwasanaeth |
---|---|---|
Stondin 1. | Candy Corner | Melysion |
Stondin 2 i 3. | Peter Woods and Sons. | Cigydd. |
Stondin 4. | Memorable Moments | Teganau vintage |
Stondinau 5. | Hair by Michael. | Trin gwallt a thyllu clustiau. |
Stondin 6. | Little Stars | Dillad babanod a phlant bach |
Stondin 7. | Phone Xcellence. | Atgyweirio ac ategolion ffonau symudol. |
Stondin 8. | Toiled cyhoeddus | Toiled cyhoeddus |
Stonin 9. | Gwag | Cysylltwch â Charlotte Egerton am fwy o wybodaeth. |
Stondinau 10 a 11 | The Rhiw Teapot Café. | Caffi. |
Stondin 12. | Wheeleys Cafe | Caffi |
Stondin 13. | Nips and Tucks. | Dillad ac addasiadau teiliwr. |
Stondin 14. |
Gwag. |
Cysylltwch â Charlotte Egerton am fwy o wybodaeth. |
Stondin 15. | Bakestones. | Bara a chacennau ffres. |
Stondin 16. |
Anifeiliaid Anwes Pen-y-Bont |
Cyflenwadau bwyd anifeiliaid anwes |
Stondin 17. |
Gwag. |
Cysylltwch â Charlotte Egerton am fwy o wybodaeth. |
Stondin 18 |
The Kind Human Club |
|
Stondin 19 a 20. | The Deli on the Counter. | Danteithfa. |
Stondin 21. | Fruit Fayre. | Ffrwythau a llysiau. |
Stondin 22A. | Gwag. | Cysylltwch â Charlotte Egerton am fwy o wybodaeth. |
Stondin 22B. | Gwag. | Cysylltwch â Charlotte Egerton am fwy o wybodaeth. |
Stondin 22C. | Cookmate. | Offer coginio/gwneud cacennau, bragu cartref ac addurniadau. |
Stondin 23. | Gwag. | Cysylltwch â Charlotte Egerton am fwy o wybodaeth. |
Stondin 24. | Gwag. | Cysylltwch â Charlotte Egerton am fwy o wybodaeth. |
Stondin 25. | Frock Follies |
Dillad vintage |
Stondin 26 a 27. |
Cwtchcraft |
Siop Wlân a Chyflenwr Ar-lein |
Stondin 28a. |
Sandra’s Jewellers |
Clociau, oriawrau, atgyweirio, gwasanaethau ac anrhegion. |
Stondin 28b. |
Candyland |
Melysion |
Stondin 33. | Kats Wax Wick & Wonders | |
Stondin 34. | Info Tech. | Caledwedd cyfrifiadurol a gwasanaeth atgywierio. |
Nifer y stondinau: | 37. |
---|---|
Maint y stondinau: | Amrywiol. |
Cyson ac achlysurol: | Caniateir. |
Ffi gwasanaethu: | Nac oes. |
Gwasanaeth casglu sbwriel: | Oes. |
Faniau dosbarthu: | Mae baeau llwytho yn y seler ar gyfer llwytho a dadlwytho yn unig. |
Cyswllt
Mercher 9am tan 4.30pm.
Gwneud cais am stondin
I wneud cais am stondin, cwblhewch ffurflen gais ar-lein.
Noder: Bydd angen ichi gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif cyn gwneud cais drwy ein ffurflen ar-lein.
Adran Masnach
Dydd Sadwrn: 9am hyd at 4pm