Canol Trefi
Beth am ymweld â’ch canol tref agosaf a helpu i gefnogi busnesau lleol? Gyda chymysgedd o siopau annibynnol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Maesteg, dyma’r lle delfrydol i gasglu unrhyw anrhegion funud olaf.
Cofiwch, mae parcio ar gael am ddim o hyd mewn meysydd parcio a reolir gan y cyngor drwy gydol cyfnod y Nadolig:
- The Rhiw, Pen-y-bont ar Ogwr (y tair awr gyntaf)
- Maes Parcio John Street, Porthcawl (rhwng 12pm a 3pm)
- Maes parcio aml lawr Llynfi Road,Maesteg
Canol tref Pen-y-bont ar Ogwr
Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr, sy'n dref farchnad ers yr 16eg ganrif, gymysgedd fywiog o siopau annibynnol, caffis ac enwau'r stryd fawr.
Yn y Farchnad Dan Do draddodiadol byddwch yn dod o hyd i fusnesau teuluol hirsefydlog a masnachwyr newydd.
Fwytai ‘Cyrchfan’
Mae canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn gartref i nifer o fwytai ‘cyrchfan’ annibynnol, sy’n cynnig bwydydd rhyngwladol lu.
Canol tref Maesteg
Mae'r profiad siopa fan hyn yn un cyfeillgar. Profwch yr ymdeimlad cryf o gymuned yng nghanol y dref, sy'n gartref i frandiau'r stryd fawr, siopau annibynnol a marchnad awyr agored sy'n clystyru o amgylch sgwâr marchnad newydd.
Canol tref Porthcawl
Yn union y tu ôl i'r Esplanade ar lan y môr, byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth gyffrous o siopau a chaffis annibynnol, ynghyd â brandiau'r stryd fawr.
Marchnad Pen-y-bont ar Ogwr
Mae’r farchnad draddodiadol hon yn gartref i nifer o fusnesau teuluol hirsefydlog a masnachwyr newydd. Mae mynediad at y Farchnad Dan Do, sydd wedi’i chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ar gael drwy Ganolfan Siopa y Rhiw.
Marchnad Maesteg
Mae Marchnad Maesteg yn farchnad awyr agored yng nghanol y dref. Yn wreiddiol, roedd wedi’i lleoli ar islawr neuadd y dref yn 1881, ac arhosodd yn y lleoliad hwnnw am 137 o flynyddoedd.