Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Sut i dalu eich ardrethi busnes

Mae pob rhandaliad yn daladwy ar neu cyn y 15fed o bob mis. Fel rheol mae eich taliad cyntaf yn cael ei wneud ym mis Ebrill ac wedyn bydd naw rhandaliad misol pellach.

Gallwch lenwi a dychwelyd y mandad sydd ar gefn eich hysbysiad i dalu ardrethi busnes. Dyma’r manteision o ddefnyddio debyd uniongyrchol:

  • dyma’r ffordd fwyaf cost effeithiol o dalu
  • does dim ciwiau

I dalu ar-lein, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Cofiwch fod â’ch rhif cyfrif ardrethi busnes oddi ar eich bil wrth law, a hefyd eich cerdyn debyd neu gredyd.

Noder ein manylion Banc ar gyfer taliadau BACS isod. Cofiwch ddyfynnu ein rhifau hanfoneb gyda phob taliad.

Enw’r Banc: Barclays Bank plc, Dunraven Place, Bridgend                        

Rhif y Cyfrif: BCBC INCOME A/C

Cod Didoli: 20-12-58

Rhif y Cyfrif: 13415198

Rhif TAW: 666582886    

SWIFTBICBARCGB22

IBANGB93 BARC 2012 5813 4151 98

 

Dylid anfon Hysbysiadau Talu at cashcontrol@bridgend.gov.uk

Cofiwch fod â’ch rhif cyfeirio saith rhif ardrethi busnes wrth law. Wedyn ffoniwch 01656 643643, neu ffonio’r system dalu awtomatig dros y ffôn ar 01656 642088.

I dalu, ewch â’ch bil, neu unrhyw lythyr gennym ni sydd â chod bar arno, i unrhyw swyddfa’r post.

Os oes arnoch angen hysbysiad talu arall er mwyn gallu talu, archebwch un o taxation@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643643.

Chwilio A i Y