Gwerth trethadwy ar gyfer ardrethi busnes ac apeliadau
Asesir gwerth trethadwy eiddo gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy’n asiantaeth gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Sut mae’r gwerth trethadwy’n cael ei gyfrif
Mae’n seiliedig ar y swm y byddai’r eiddo’n cael ei rentu amdano pe bai’n cael ei osod ar y farchnad agored ar ddyddiad prisio penodol.
Y dyddiad prisio penodol
- Tan 31 Mawrth 2023, seiliwyd y gwerthoedd trethadwy ar ddyddiad prisio o 1 Ebrill 2015 ymlaen.
- O 1 Ebrill 2023, seilir y gwerthoedd trethadwy ar ddyddiad prisio o 1 Ebrill 2021 ymlaen.
Os ydych chi’n meddwl bod eich gwerth trethadwy’n anghywir, chwiliwch am fanylion eich eiddo ar wefan Llywodraeth y DU.
Eiddo cyfansawdd
Mae gan ambell eiddo ddibenion domestig ac annomestig. Un esiampl yw tafarn gyda fflat uwch ei phen. Yn yr achosion hynny, mae ardrethi busnes yn daladwy ar y rhan annomestig, ac mae’r dreth gyngor yn daladwy ar y rhan ddomestig. Gelwir eiddo o’r fath yn eiddo cyfansawdd hefyd.
Ailbrisio ardrethi busnes 2023
Ailasesir gwerthoedd trethadwy pob eiddo busnes bob pum mlynedd. Yr enw ar hyn yw ‘ailbrisiad’ a chynhaliwyd yr ailbrisiad diwethaf ar 1 Ebrill 2023.
Mae’n digwydd i gadw’r system yn deg drwy ailddosbarthu cyfanswm y swm taladwy mewn ardrethi busnes i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo. Nid yw ailbrisio’n codi refeniw ychwanegol yn gyffredinol.
Apeliadau
I apelio yn erbyn eich gwerth trethadwy, ewch i wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu ffoniwch nhw ar 03000 505505.
Sylwer bod ardrethi’n daladwy o hyd wrth i apeliadau gael eu prosesu. Os bydd eich apêl yn llwyddiannus, byddwn yn gwneud addasiad ac yn rhoi ad-daliad os yw hynny’n berthnasol.
O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd gennych hawl i log. I ddechrau ar y broses, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion uchod.
Cysylltu
Gwener: 8:30am i 4:30pm.