Ardrethi eiddo gwag
Fel rheol, rhaid i berchnogion eiddo annomestig gwag dalu ardrethi eiddo gwag. Os daw eiddo’n wag, ceir cyfnod o dri mis lle nad oes angen talu ardrethi, neu chwe mis ar gyfer eiddo diwydiannol. Wedi hynny, rhaid talu’r ardrethi 100%.
Mae rhai mathau o eiddo wedi’u heithrio rhag ardrethi gwag o’r fath, fel:
- eiddo rhestredig
- henebion hynafol
- lle mae’r gyfraith yn gwahardd preswylio
- lle mae’r adeilad yn rhan o stad person sydd wedi marw, neu os yw’r perchennog yn wynebu gweithrediadau methdaliad